English

Rheoli chwyn gan ystyried
yr amgylchedd yn Sir y Fflint

LNP Sir y Fflint

Darllenwch am sut mae Cyngor Sir y Fflint wedi dod o hyd i ffordd werdd o reoli chwyn.

Planhigion gwyllt sy’n aml yn tyfu yn y lle anghywir yw chwyn, felly d’oes ryfedd fod rheoli chwyn yn rhan hanfodol o reoli ein hamgylchedd naturiol. Os cânt eu gadael, gall chwyn gystadlu â phlanhigion eraill am faetholion, lle, dŵr a phridd, a chan hynny, eu rhwystro rhag tyfu.

Er bod chwynladdwyr cemegol yn cael eu defnyddio’n eang i reoli chwyn, maen nhw’n cynnwys cemegau gwenwynig fel glyffosad a all fod yn niweidiol i’r amgylchedd ac i bobl.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi mynd o’i ben a’i bastwn ei hun i edrych am chwynladdwyr gwyrdd yn hytrach na rhai cemegol er mwyn lleihau’r effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol o reoli chwyn yn gemegol ar fyd natur. Gan ddefnyddio’r arian grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a ddosbarthwyd gan LNP Cymru, gwnaethant brynu ‘Foamstream’ a newid i ffordd ecogyfeillgar o reoli chwyn, gan obeithio ysbrydoli cynghorau eraill.

Buddion defnyddio ‘Foamstream’

‘Foamstream’ yw un o’r prif sylweddau lladd chwyn heb gemegau ar gyfer rheoli llystyfiant digroeso fel chwyn, mwsogl ac algâu. Mae’n ddiogel i’w ddefnyddio mewn mannau cyhoeddus ac nid yw’n beryglus i bobl, anifeiliaid na’r amgylchedd.

Mae ‘Foamstream’ yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd gan adrannau Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, ac mae wedi’i ddefnyddio’n ddiweddar i gael gwared â chwyn ac algâu mewn lleoliadau di-ri, gan gynnwys iardiau amgueddfeydd ac ar waith brics bregus.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn bwriadu ehangu’r defnydd o ‘Foamstream’ yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac mae staff sy’n rheoli mannau cyhoeddus eraill fel mynwentydd eisoes wedi dangos diddordeb.

Mae yna gyfoeth o fioamrywiaeth mewn mynwentydd gan eu bod yn aml heb eu cyffwrdd am gyfnodau maith ac yn llochesau i rywogaethau prin neu mewn perygl, felly maen nhw’n bwysig iawn i gadwraeth ein hamgylchedd naturiol.

Mae’r pryniant wedi cael adborth gwych hyd yma, ac mae Cyngor Sir y Fflint wedi gweld llawer o fuddion dros ddefnyddio’r system. Er enghraifft, nid oes angen defnyddio cemegau, sy’n gwella ansawdd a maint ein hamgylchedd naturiol ac yn gwella gwydnwch ecosystemau.

Mae’r Foamstream hefyd wedi bod yn fuddiol i’r adrannau oherwydd ei natur amlddefnydd, gan gynnwys rheoli chwyn, rheoli rhywogaethau estron goresgynnol (fel rhododendron a Jac y Neidiwr) a glanhau, yn enwedig cael gwared â graffiti.

Gan ei fod yn system hawdd ei defnyddio ac ar gael i bob aelod hyfforddedig o staff heb yr angen am drwydded, mae’r Foamstream yn ymarferol ac yn dda i’r amgylchedd. Byddai’n wych gweld mwy a mwy o dir sy’n eiddo i’r cyngor yn cael ei reoli mewn modd sy’n ystyried bywyd gwyllt.

Dywedodd aelod o’r tîm Cefn Gwlad ‘Roeddwn i’n hoffi defnyddio’r [Foamstream] a bydd yn bendant yn ein strategaeth rheoli chwyn yn y dyfodol.’

I gael y diweddaraf o LNP Gogledd-ddwyrain Cymru, dilynwch nhw ar Twitter neu ewch i’w gwefan.

Iard yr Amgueddfa - Cyn y driniaeth

Tynnu chwyn ar waith brics bregus - lle gallai tynnu corfforol achosi difrod

Tynnu chwyn ac algâu ar y wal

2024 LNP Cymruwebsite by WiSS