English

Partneriaeth Natur Lleol Caerdydd

Cynnwys Gwirfoddolwyr yn Rhan o Brosiectau Peillwyr

Mae Partneriaeth Natur Lleol Caerdydd wedi recriwtio gwirfoddolwyr i’w helpu i fonitro effaith newidiadau mewn rheoli glaswelltiroedd ar draws y ddinas.

Bob blwyddyn, mae nifer y safleoedd yn ein parciau a’n hardaloedd agored lle y mae’r gwair yn cael ei dorri’n llai aml yn cynyddu gan alluogi i blanhigion flodeuo a chefnogi pryfed peillio. Yn ogystal, mae peiriannau newydd a brynwyd trwy grant rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru yn galluogi i doriadau glaswellt gael eu symud a chreu amodau tyfu sy’n fwy ffafriol i blanhigion gweunydd.

Er bod y buddion bioamrywiaeth sy’n gysylltiedig â thorri gwair yn llai aml a rheoli glaswelltiroedd trwy ddull ‘torri a chasglu’ wedi’u nodi’n helaeth, meddyliodd Partneriaeth Natur Lleol Caerdydd y byddai monitro newidiadau mewn rhywogaethau planhigion ar eu safleoedd yn ddefnyddiol gan roi tystiolaeth leol i gefnogi cynigion i ymestyn yr ymarfer.

Cynigiwyd y cyfle i gynorthwyo â chynnal arolygon glaswelltiroedd trwy Bartneriaeth Natur Lleol Caerdydd. I gefnogi gwirfoddolwyr a oedd yn meddu ar ychydig iawn o brofiad neu hyder o ran adnabod bywyd gwyllt, mae Partneriaeth Natur Lleol wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Natur i ddatblygu rhaglen o weithdai hyfforddiant ar-lein ac ymarferol am ddim.

Dechreuodd y rhaglen recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr ym mis Gorffennaf eleni a, hyd heddiw, rydyn ni wedi recriwtio 20 o wirfoddolwyr sydd wedi cynnal arolwg o dros 50 o safleoedd sef dechreuad gwych.

Ennill profiad gwerthfawr
Mae’r adborth rydyn ni wedi’i dderbyn gan y gwirfoddolwyr a’r Ymddiriedolaeth Natur wedi bod yn gadarnhaol iawn. Enillodd y gwirfoddolwyr brofiad gwerthfawr o ran adnabod rhywogaethau.

‘Rwyf wedi mwynhau cymryd rhan yn Arolwg Glaswelltiroedd Un Toriad yn fawr,’ dywedodd Ellie, un o’r gwirfoddolwyr.

‘Rydyn ni wedi mynychu sesiynau addysgu gwych ar blanhigion, pili-palod, gwyfynod, a gwenyn. Rwyf nawr yn teimlo’n hyderus o ran adnabod y planhigion gweunydd a’r pili-palod cyffredin a ches i fy syfrdanu gan y gwyfynod sy’n hedfan yn ystod y nos. Llwyddon ni i adnabod 60 i 70 o rywogaethau gwahanol yn Fferm y Fforest gan gynnwys y gwalchwyfyn yr helyglys godidog.

Dangosodd yr arolwg Gweunydd Un Toriad yn glir fod yr amrywiaeth o blanhigion wedi cynyddu ynghyd â nifer y pili-palod a gwenyn a phryfed eraill ers newid pa mor aml y mae’r gwair yn cael ei dorri.’

Grŵp anhygoel o wirfoddolwyr

‘Grŵp anhygoel o wirfoddolwyr’
‘Roedden ni wrth ein boddau’n trefnu hyfforddiant y prosiect peillwyr,’ meddai Meg Howells, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.

‘Mae’r hyfforddiant wedi datblygu sgiliau adnabod planhigion glaswelltiroedd, cacwn, pili-palod, a gwyfynod y gwirfoddolwyr. Cawson ni grŵp anhygoel o wirfoddolwyr yn y sesiynau hyfforddiant.

‘Ers cynnal y sesiynau, mae pob un o’r ardaloedd ‘un toriad’ wedi cael ei harolygu. Llwyddon ni i wneud hyn ddiolch i ymdrechion a brwdfrydedd yr unigolion a fynychodd yr hyfforddiant.’

Rydyn ni’n bwriadu parhau i ddatblygu’r rhaglen gwirfoddolwyr gan gynnig hyfforddiant a chyfleoedd i gynnal arolygon ar gyfer pob tymor. Os ydych chi’n byw neu’n gweithio yn ardal Caerdydd a hoffech chi gymryd rhan, e-bostiwch Sam Eaves (Cydlynydd Partneriaeth Natur Lleol).


Os hoffech chi wirfoddoli gyda’ch Partneriaeth Natur Lleol chi, mae manylion cyswllt ar gael yma

2024 LNP Cymruwebsite by WiSS