English

Cydlynwyr LNP
pwy ydyn nhw a beth maen nhw’n ei wneud?

Holly Dillon

Yr wythnos hon, rydyn ni wedi bod yn dathlu Wythnos Natur Cymru ac ychydig o’r gwaith anhygoel y mae Partneriaethau Natur Lleol yn ei wneud mewn cynefinoedd ar hyd a lled Cymru. Roedden ni’n meddwl y byddai’n braf dod â’r wythnos i ben drwy gyfweld ag un o’n Cydlynwyr LNP a chael gwybod mwy am bwy ydyn nhw a’r math o bethau y maen nhw’n eu gwneud.

Holly Dillon

Dewch i gwrdd â Holly Dillon, Cydlynydd LNP Powys

Dywed ychydig amdanat wrthym ni Holly
Helo bawb, Holly ydw i a chefais rôl y Cydlynydd LNP ym Mhowys yn gynharach y flwyddyn hon. Rwy’n dwli ar fyd natur yn gyffredinol, ond mae gennyf ddiddordeb penodol mewn infertebratau, y pethau bychain sy’n asgwrn cefn i’n hecosystemau a’n parhad.

Biolegydd Cadwraeth ydw i, felly mae llawer o’m gyrfa hyd yma wedi ymwneud â gweithio i elusennau cadwraeth ac amgylcheddol. Rwyf wedi bod yn ddigon lwcus i weithio mewn rhai mannau anhygoel – dechreuais fy ngyrfa yn gweithio ar Ynys Skomer yn helpu i fonitro’r poblogaethau o adar y môr a threuliais amser hefyd yn gweithio yn fforestydd glaw Borneo.

Pan nad wyf yn gweithio, rwy’n hoffi bod yn yr awyr agored cymaint â phosibl – yn beicio mynydd, rhedeg, dringo a cherdded.

I’r rheini nad ydynt yn gwybod, a elli di ddweud ychydig mwy wrthym am beth mae Cydlynydd LNP yn ei wneud?
Fy ngwaith i yw cydlynu’r Partneriaethau Natur Lleol (LNP). Grwpiau o fudiadau, busnesau, grwpiau cymunedol ac unigolion yw’r LNPs sy’n ymrwymedig i warchod natur yn eu hardal, ac mae LNP ym mhob ardal sirol ledled Cymru.

Fel Cydlynwyr, rydyn ni’n annog gweithio mewn partneriaeth, rhannu gwybodaeth (prosiectau cyfredol, cyfleoedd y gall aelodau fanteisio arnyn nhw, polisïau ac ati), rhwydweithio a rhannu arferion gorau.

Rydyn ni hefyd yn borth i mewn i’r bartneriaeth. Er enghraifft, gallai grŵp cymunedol gysylltu ynghylch prosiect gwarchod bywyd gwyllt y maen nhw eisiau ei ddechrau, neu efallai eu bod eisiau ychydig o gyngor ar reoli cynefin. Gallaf i wedyn roi cyngor iddyn nhw neu, os nad ydw i’n arbenigo yn y maes hwnnw, eu rhoi mewn cysylltiad ag arbenigwyr lleol a mudiadau perthnasol i’w helpu.

Pam wnes di ddewis gwneud cais am y rôl?
Fe wnes i gais ar gyfer y swydd hon oherwydd roeddwn i’n awyddus i weithio ym maes gwarchod bywyd gwyllt ym Mhowys. Cefais fy magu ym Mhowys a symudais yn ôl i’r sir rai blynyddoedd yn ôl, ond dros y ffin rwyf wedi bod yn gweithio’n bennaf. Y cynefinoedd a’r bywyd gwyllt ym Mhowys a’m hysgogodd i ddilyn gyrfa mewn cadwraeth yn y lle cyntaf, felly rwyf eisiau gwneud fy rhan i helpu i’w gwarchod a’u hadfer.

Roeddwn hefyd yn awyddus i weithio gyda’r LNP fel y gallwn weithio gyda’r prif randdeiliaid cadwraeth yn yr ardal, cael gwybod am yr holl brosiectau cadwraeth sy’n digwydd ar hyd a lled y sir ac annog gweithio mewn partneriaeth.

Disgrifia ddiwrnod arferol i ni. Pa brosiectau diddorol wyt ti’n gweithio arnyn nhw nawr?
Mae’n swydd eithaf amrywiol. Hyd yma, rwyf wedi treulio llawer o’m hamser yn cwrdd ag aelodau’r LNP, yn dod i wybod mwy am eu gwaith a sut gallwn ni weithio gyda’n gilydd, yn ogystal â chwrdd â llawer o bartneriaid newydd er mwyn ehangu’r LNP.

Rwyf hefyd wedi bod yn gweithio gyda’r staff yng Nghyngor Sir Powys i edrych ar sut gallant helpu i wella bioamrywiaeth, yn enwedig ar ymylon ffyrdd, a gwneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau fel creu gerddi cymunedol a mannau blodau gwyllt.

Rwy’n gweithio ar brosiect gwyddoniaeth dinasyddion ar y cyd ag LNP Bannau Brycheiniog a BIS (Gwasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth) ar hyn o bryd. Rydyn ni’n gweithio gydag oddeutu 50 o wirfoddolwyr camerâu cipio sydd wedi benthyg camerâu cipio gennym i ddysgu am y bywyd gwyllt y maen nhw’n ei weld yn eu gerddi a’i gofnodi.

Llun gan Holly Dillon


Y peth nesaf ar fy rhestr o bethau i’w gwneud yw dechrau gweithio gyda’r LNP ar Gynllun Gweithredu Adfer Natur Powys (PNRAP), a fydd yn siŵr o’m cadw i’n brysur am weddill y flwyddyn! Prif nod PNRAP yw gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth ledled Powys, gan edrych ar ein rhywogaethau a chynefinoedd blaenoriaethol a’r prosiectau a chamau gweithredu sydd angen eu cymryd gan yr LNP, yn ogystal â’r cyhoedd, i’w gwarchod a’u gwella nhw.

I bobl sy’n darllen hwn ac eisiau cymryd rhan yn LNP Powys, beth yw’r ffordd orau?
Mae croeso i unrhyw un â’r amser, y sgiliau a’r arbenigedd i fwydo i mewn i waith y bartneriaeth i ymuno â ni, felly cysylltwch â ni os oes gennych chi ddiddordeb! - biodiversity@powys.gov.uk

I ddod o hyd i’r Bartneriaeth Natur Leol benodol ar gyfer eich ardal a chymryd rhan mewn gwaith adfer natur lleol, gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ar wefan Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru o dan Lleol i Chi neu cysylltwch â thîm LNP Cymru.

2024 LNP Cymruwebsite by WiSS