English

LNP diweddaraf

Mae ein Partneriaethau Natur Lleol wedi bod yn ddigon prysur y tu ôl i’r llenni er gwaetha’r heriau diweddar a’n hwynebodd o ganlyniad i’r cyfyngiadau symud. Roeddem yn awyddus i gymryd y cyfle hwn i roi rhywfaint o ddiweddariad ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd. Pwy sydd ddim yn mwynhau ychydig o drafod rhifau?!

Mae aelodaeth ein LNPs lleol wedi dyblu ers cychwyn y prosiect, gyda dros hanner yr aelodau newydd yn rhai nad ydynt yn aelodau traddodiadol. Golyga hyn ein bod yn ymgysylltu’n llwyddiannus â chynulleidfaoedd na fyddent fel arfer yn cymryd rhan yn adferiad byd natur, sy’n rhan bwysig iawn o fynd i’r afael â’r argyfwng natur dybryd.

Rydym hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymholiadau sy’n cael eu derbyn gan ein Cydlynwyr LNP, yn Gymraeg a Saesneg. Golyga hynny fod pobl ledled Cymru’n cysylltu â’n Cydlynwyr LNP am gyngor arbenigol, ceisiadau i gydweithio ar ddatblygu prosiectau neu i rwydweithio a chodi ymwybyddiaeth o faterion dybryd yn ymwneud â byd natur.

Tra’r oedd cynnydd o ran prosiectau ymarferol yn anodd ar ddechrau’r flwyddyn ariannol (o Ebrill 2020 ymlaen), rydym wedi dechrau magu gwib yn y cyd-destun hwnnw hefyd. Mae’r Cydlynwyr LNP anhygoel, gyda chymorth y timau yn CGGC a Bioamrywiaeth Cymru, wedi sicrhau dros £1.6 miliwn o gyllid gan gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru er mwyn cynnal prosiectau cyfalaf ac i brynu offer arbenigol i wella bioamrywiaeth.

Mae’r prosiectau a gyllidir yn amrywio o waliau a thoeau gwyrdd ar adeiladau cyhoeddus i newid arferion torri gwair ar diroedd cynghorau sir, o hyrwyddo blodau gwyllt a choed sy’n tarddu’n lleol i glirio rhywogaethau goresgynnol o gynefinoedd hanfodol mewn afonydd. Cynhelir y prosiectau hyn ym mhob sir yng Nghymru, felly mae’n sicr bod rhywbeth yn cael ei gynnal yn agos i chi.

A dim ond y dechrau yw hyn – cadwch olwg am ddiweddariadau er mwyn darganfod beth sy’n dod nesaf!

2024 LNP Cymruwebsite by WiSS