English

10 ffordd y gallwch chi helpu draenogod y Gaeaf hwn

Partneriaeth Natur Lleol (LNP) Sir Fynwy a Chasnewydd

Mae draenogod bach yn cysgu mewn gerddi cartrefi ledled Casnewydd ar hyn o bryd diolch i gymorth a chyllid Partneriaeth Natur Lleol (LNP) Sir Fynwy a Chasnewydd – dyma sut gallwch chi helpu draenogod yn eich ardal chi dros fisoedd y gaeaf i ddod.

Mae nifer y draenogod yng Nghymru wedi dirywio’n aruthrol yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf, gyda’r niferoedd yn plymio o 1.5 miliwn ym 1995 i lai na 500,000 heddiw.

Mae’r dirywiad ym mhoblogaeth y draenog yn adlewyrchiad o’r dirywiad yn ansawdd ein hamgylchedd naturiol. Yn anffodus, mae hyn yn golygu nad draenogod yn unig sy’n cael eu heffeithio, gyda llawer o’n rhywogaethau annwyl ar drengi.

Dyma pam mae rhai o’n Partneriaethau Natur Lleol (LNPs) ledled Cymru wedi bod yn cynorthwyo pobl a chymunedau i wneud popeth y gallant i helpu i achub y draenogod.

Casnewydd yn arwain y ffordd
Yng Nghasnewydd, mae Grŵp Codi Sbwriel Celtic Horizons wedi bod yn allweddol i gyflwyno newidiadau amgylcheddol ehangach ledled Casnewydd, yn arbennig o ran rheoli ymylon ffordd a glaswelltir o fewn ac o amgylch ardaloedd preswyl.

Wrth gynorthwyo eu LNP a Chyngor Dinas Casnewydd i wneud y newidiadau hyn, dechreuodd y grŵp edrych yn ehangach ar welliannau eraill i fioamrywiaeth y gallent eu gwneud i helpu eu bywyd gwyllt lleol i ffynnu.

Eisoes yn ymwneud â nifer o brosiectau peillio lleol, aeth y grŵp ati, gyda chymorth canolfan achub draenogod lleol a gwirfoddolwyr bywyd gwyllt, i greu’r Prosiect ‘Home Help for Hedgehogs’ (Cymorth Cartref i Ddraenogod).

‘Roedd yn cyd-fynd yn braf ag amcanion Cronfa Prosiect Bach LNP Sir Fynwy a Chasnewydd’, meddai cydlynydd LNP Casnewydd, Lucy Arnold-Matthews. ‘Ar adeg pan oedd yr holl wlad i mewn ac allan o gyfnodau clo, roedd hwn yn brosiect a oedd yn galluogi pobl i ymhél â byd natur yn eu gerddi eu hunain a chefnogi’r boblogaeth ehangach o ddraenogod.’

Dyddiaduron Draenogod
Drwy’r prosiect, gosododd trigolion ledled Casnewydd gartrefi i ddraenogod yn eu gerddi trefol a maestrefol, gan gynnig bwyd, lloches a dŵr i achub y rhywogaeth hon sydd mewn perygl.

Cafodd yr achubwyr eu cefnogi gan yr Hyrwyddwyr Draenogod lleol, Sue, Helen a Jane o’r Ganolfan Achub, a roddodd syniadau da ac arweiniad ar ba fwyd i’w adael allan, ble, pwysigrwydd mynediad a lloches.

Yn ffodus i ni, gwnaeth yr achubwyr hefyd gadw dyddiadur i fonitro’r bywyd yn eu gerddi, gan roi cipolwg i ni i gyd ar ymddygiad draenogod.

‘Alla i ddim dweud wrthych chi cymaint o bleser a braint y mae wedi bod i gael fy mabwysiadu gan Erin y draenog’, meddai un cyfranogwr. ‘Mae wedi fy helpu drwy’r cyfnod clo a gwneud byd o wahaniaeth i’m hiechyd meddwl.

‘Mae wedi defnyddio’i ystafell westy’n gyson drwy’r gaeaf [ac] rwyf wedi’i weld yn dyblu mewn maint wrth i mi barhau i’w fwydo drwy fisoedd y gaeaf.’

Pan wellodd y tywydd, roeddwn i’n disgwyl i Erin fynd bant i chwilio am Mrs Erin, ond na!!!! Yma mae’n aros bron bob dydd. Rwyf wedi cael camera prosiect i’w fenthyg am rai wythnosau a rhaid i mi ddweud, rwy’n dwli arno erbyn hyn.’

Draenog bach amddifad mewn canolfan achub, cyn cael ei ryddhau’n llwyddiannus i’r gwyllt trwy ardd gefnogol ym mis Gorffennaf 2021

Bocs nythu wedi’i osod mewn gardd gefnogol newydd, Mai 2021

Dau ddraenog gwrywaidd mewn ysgarmes fer, Ebrill 2021

Sut gallwch chi helpu
Ein gerddi yw’r allwedd i achub y rhywogaeth ryfeddol hon. Os ydych chi eisiau helpu, mae ‘Hedgehog Street’, yr elusen o’r DU sy’n gwneud popeth o fewn eu gallu i’w hamddiffyn, yn argymell y deg syniad da canlynol i wneud eich gardd yn gyfeillgar i ddraenogod:

1) Cysylltwch eich gardd â Phriffyrdd Draenogod
Os yw eich gardd yn amgaeedig, mae’n bosibl eich bod yn amharu ar gynlluniau ymfudo draenogod. Mae mentrau fel cynllun Priffyrdd Draenogod LNP Bro Morgannwg yn cysylltu gerddi ledled Penarth trwy anoog aelodau’r cymuned i adio tyllau yn eu ffensys i ddraenogod mynd trwodd. Beth am edrych a oes gan eich ardal prosiect tebyg, ac os nad oes, beth am greu un?

2) Gwnewch eich pwll yn ddiogel gyda ramp
A oeddech chi’n gwybod bod draenogod yn nofwyr gwych? Ond maen nhw’n cael trafferth dod allan o’r dŵr, felly byddai creu ramp neu ardal traeth allan o’ch pwll gan ddefnyddio rhwyll wifrog, cerrig neu bren yn eu hatal rhag cael eu trapio yn y dŵr

3) Crëwch gornel wyllt
Bydd gadael i’ch blodau, glaswellt a chwyn dyfu’n wyllt mewn un cornel o’ch gardd yn darparu lloches hanfodol (a bwyd blasus) ar gyfer draenogod drwy gydol y gaeaf. Ac mae llwyth o fuddion ychwanegol i gael gardd wyllt, fel helpu ein gloÿnnod byw a’n gwenyn. Cewch ragor o wybodaeth yn ymgyrch "Mai Dim Torri Gwair" Plantlife (Saesneg yn unig).

4) Ymdrin â rhwydi a sbwriel
Gall draenogod fynd yn sownd yn hawdd mewn rhwydi neu sbwriel, felly gwnewch yn siŵr bod eich gardd yn ddi-sbwriel ac yn gyfeillgar i ddraenogod! Gwnewch yn siŵr fod unrhyw rhwydi o leiaf troedfedd bant o’r llawr iddynt symud oddi tano.

5) Rhowch fwyd a dŵr allan
Fel arfer, mae draenogod yn bwyta pob math o drychfilod, ond gallwch chi ategu eu bwyd gyda bwyd cig i gathod neu gŵn - mae bwyd sych yn well yn y gaeaf oherwydd nid yw'n rhewi. Mae dŵr hefyd yn bwysig trwy gydol y flwyddyn, felly gwnewch yn siŵr bod bowlenni dŵr yn cael eu llenwi'n rheolaidd a pheidiwch â’i adael i rhewi!.

6) Stopiwch ddefnyddio cemegion
Mae cemegion nid yn unig yn wenwynig i ddraenogod, ond maen nhw hefyd yn lladd y trychfilod y maen nhw wrth eu boddau yn eu bwyta (ac sydd eu hangen arnyn nhw i fyw!) Mae’r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt wedi ysgrifennu erthygl wych ar sut i wneud eich gardd yn barth heb gemegion (Saesneg yn unig).

7) Edrychwch yn gyntaf
Ni fydd draenogod yn rhedeg i ffwrdd pan fyddan nhw’n clywed peiriannau, felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwirio nad oes rhai yno cyn i chi ddechrau torri. Hefyd, os ydych chi eisiau cynnau coelcerth, ewch ati i’w hadeiladu naill ai ar yr un diwrnod ag y byddwch chi’n ei chynnau neu symudwch hi ar y diwrnod cynnau er mwyn sicrhau nad oes draenogod yn gaeafgysgu ynddi.

8) Gwnewch gartref i ddraenogod
Does dim byd yn gwneud draenogod yn hapusach na phentwr o goed – maen nhw’n llawn bwyd ac yn gwneud lloches wych drwy’r flwyddyn. Gallwch hefyd brynu neu adeiladu tŷ draenog eich hun - ond gwnewch yn siŵr ei fod yn bren cryf gyda gwaelod a tho gwrth-ddŵr, gyda naill ai fynedfa twnnel neu baffl fewnol i gadw ysglyfaethwyr allan. Rydych chi eisoes wedi darllen gymaint y mae achubwyr Casnewydd wedi gwirioni ar gael y creaduriaid bach hyn yn eu gerddi, a gallwch chi hefyd!.

9) Lleolwch eich ganolfan achub agosaf
Os byddwch chi'n gweld draenog allan yn ystod y dydd, mae'n sâl ac mae angen mynd ag ef i ganolfan achub draenogod fel argyfwng. Mae'n syniad da i ddarganfod ble mae'ch canolfan agosaf - storiwch y manylion yn eich ffôn yn barod i weithredu! Gallwch ddod o hyd i'ch canolfan agosaf ar www.helpwildlife.co.uk (Saesneg yn unig).

Sut i achub draenog:

  • Gan ddefnyddio menig, codwch y draenog yn ysgafn a'i roi mewn bocs ag ochrau uchel.
  • Gorchuddiwch y draenog gyda thywel i helpu i leihau straen.
  • Llenwch botel ddŵr â dŵr poeth, gorchuddiwch â thywel arall a'i roi yn y bocs ger y draenog - mae'n debyg bod unrhyw ddraenog sydd allan yn y dydd yn hypothermig ac mae angen cynhesu!
  • Cynigiwch ddŵr yn unig mewn powlen fas yn y bocs - dim bwyd.
  • Rhowch y bocs mewn lle tywyll a chynnes, ac yna cysylltwch a’ch canolfan achub draenogod cyn gynted â phosib i gael cyngor pellach.

10) Cysylltwch gyda’ch LNP

Gallwch chi hefyd gysylltu â’ch LNP i ddysgu mwy am brosiectau draenogod sydd ar waith yn eich ardal chi – neu am gyngor os ydych chi am ddechrau un eich hun.

2024 LNP Cymruwebsite by WiSS