Ffocws Wythnos Natur Cymru eleni, a gynhaliwyd rhwng Mai 30ain a 7fed Mehefin, oedd cysylltu â byd natur ar garreg ein drws.
Gyda’r cyfyngiadau symud yn eu hanterth a’r pandemig yn cael lle blaenllaw ar y newyddion ac yn ein meddyliau, fe gynigiodd byd natur encil i ni.Rhoddodd Wythnos Natur Cymru y cyfle i ni ddysgu am fyd natur o’n cwmpas, pa un ai ydyn ni’n byw mewn dinas neu faestref, os oes gennym ni ardd neu beidio.
Dechreuodd yr wythnos gyda’r ‘BioBlitz Gerddi’, a gydlynwyd gan y Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol (CCALlau). Estynnwyd gwahoddiad i’r rhai sydd wrth eu boddau â byd natur ledled y wlad i chwilio am rywogaethau cyffredin a phrin er mwyn cyfrannu at ein cipolwg o rywogaethau Cymru gyfan. Cafodd y swm syfrdanol o 6,243 o gofnodion o 1,430 o rywogaethau eu casglu. Am ddechrau da i’r wythnos!
Ymysg y digwyddiadau a ddilynodd hynny roedd sesiwn holi ac ateb gydag arbenigwr ar wenyn o Buglife Cymru, agor trap gwyfynod yn fyw gyda’r arbenigwr Barry Stewart, ioga yn yr ardd ar Ddiwrnod Llesiant Natur, a chwis tafarn am fyd natur a llawer mwy. Ar gael i’w weld yma.
Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb a gymerodd ran, ein Partneriaethau Natur Lleol arbennig a drefnodd y digwyddiadau a’n CCALlau ac arbenigwyr lleol a gyfrannodd eu doethineb. Roeddem ni i gyd wrth ein boddau wrth i’r wythnos ddod i ben.
Os cawsoch chi eich ysbrydoli gan yr hyn ddigwyddodd yn ystod Wythnos Natur Cymru ac os carech ymwneud ag adferiad byd natur yn eich ardal chi, gallwch gysylltu â’ch Cydlynydd LNP trwy glicio ar eich ardal yma:
Fel arall, cliciwch ar y botwm cyswllt uchod neu Trydarwch ni er mwyn cysylltu’n uniongyrchol â thîm LNP.
2024 LNP Cymruwebsite by WiSS