English

Ardal Natur Barrack Hill

LNP Sir Fynwy a Chasnewydd

Mae Partneriaeth Natur Lleol Sir Fynwy a Chasnewydd wedi bod yn helpu i drawsnewid Barrack Hill o le poblogaidd i dipio’n anghyfreithlon i hafan gyfoethog o natur i bobl leol.

‘Roedd fy mhlant yn arfer ei alw’n Byd y Bambŵ...mae wastad wedi cael ei ddefnyddio gan blant yr ystâd, hyd yn oed pan oedd yn anniben. Rwyf mor falch ein bod yn gallu dod ynghyd i’w lanhau fel bod plant y dyfodol yn gallu ei fwynhau’n ddiogel.’

Mae Julia yn byw ar waelod Barrack Hill, clytwaith gwyrdd o laswelltir, prysgwydd, rhedyn a choetir naturiol yng Nghasnewydd.

Mae’r rhiw yn cysylltu dwy gymuned eithaf ar wahân: yr ystad sydd yng ngofal Pobl Housing ar Sorrel Drive ar y gwaelod ac ardal fwy sefydledig Allt-yr-yn ar y pen uchaf.

Yn anffodus, er bod Barackswood yn cael ei ddefnyddio fel lle chwarae antur gan ei drigolion mwy creadigol, mae’n lle poblogaidd i dipio’n anghyfreithlon. Er bod gwahanol brosiectau wedi camu i mewn i fynd i’r afael â’r broblem, mae’r diwylliant o dipio’n anghyfreithlon wedi’i ymwreiddio’n rhy ddwfn ac yn anffodus, pan mae’r cyllid yn dod i ben, mae’r diwylliant yn dychwelyd.

‘Roedd pob math o bethau yma…gweddillion tanau, bocsys, cewynnau,’ meddai Lucy, Cydlynydd LNP Casnewydd, ‘byddai’r plant yn arfer rasio i lawr y rhiw ar yr holl feiciau oedd wedi’u gadael yno.’

Pan aeth Lucy i Sorrel Drive i ymhél â nhw ar brosiect adfer natur, ni fyddai unrhyw un wedi gweld bai ar Julia am fod braidd yn sinigaidd.

‘Maen nhw’n gyfarwydd â phrosiectau dros dro eraill yn cael eu hedfan i mewn ac allan, sy’n gwneud iddyn nhw ddrwgdybio help,’ meddai Lucy. ‘Pobl sy’n meddwl yn dda yn heidio o gylch yr ardal yn ceisio gwneud newidiadau, ac yna’n rhedeg allan o gyllid, prosiectau’n cael eu gadael heb eu diwedd ac offer defnyddiol yn cael eu cymryd ymaith.’

‘Ddegawd yn ôl, roedd gennym ni gysylltiad rhwng pen uchaf ac isaf y rhiw oherwydd ein hen ganolfan gymunedol, ond diflannodd y cysylltiad,’ meddai Julia, ‘roedd gennym ni gynhwysydd morgludiant bach i lawr yma hefyd am ‘chydig, ond mae hwnnw wedi mynd nawr hefyd.’

‘Allwch chi ddim parhau i roi pethau yma ac yna mynd â nhw ymaith heb siarad â’r trigolion - mae angen i bawb ddechrau gweithio fel un,’ ychwanegodd Leah, aelod o’r gymuned.

Mae’r ystad yn dioddef o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac mae o fewn y 10% o ardaloedd mwyaf tlawd yng Nghymru. Serch hyn, mae eu moeseg gymunedol gref wedi dod i’r wyneb dro ar ôl tro.

‘Pan dorrodd rhywun i mewn i’r cynhwysydd morgludo un noson, roedd y plant lleol yn dwli cymaint arno, fe wnaethon nhw i gyd aros ar ddihun ac eistedd o’i amgylch i’w warchod,’ ychwanega Julia, ‘ond yn amlwg, pan mae’r cyllid yn dod i ben...’

Hwyluso delfrydau’r gymuned
Diolch i arweiniad Lucy a dull gweithredu amlasiantaeth yn cynnwys Cyngor Dinas Casnewydd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Taclo Tipio Cymru, Pobl Housing ac wrth gwrs y trigolion, cafodd y tîm wared ar dri llwyth lori o wastraff wedi’i dipio’n anghyfreithlon o’r ardal.

Mae moeseg gymunedol Sorrel Drive wedi dod i’r wyneb unwaith eto diolch i waith Lucy gyda nhw ar Coedwig Barrack Hill.

‘Mae mwy o fuddsoddiad yn yr ardal wedi amlygu ei photensial – nawr bod ffocws, mae’r gymuned yn ymfalchïo yn y safle,’ medd Lucy.

‘Er enghraifft, cawsom ni wybod am ‘broblemau amgylcheddol’ gan y trigolion pan wnaethon nhw sylwi bod y Gymdeithas Tai yn chwistrellu’r mieri ar y rhiw. Nawr, rydyn ni’n gweithio gyda Pobl i ddod o hyd i ffyrdd o dacluso’r ardal mewn modd sy’n ystyriol o fyd natur.

‘Rwy’n hoffi meddwl ein bod ni’n hwyluso delfrydau’r gymuned. Yn gweithio gyda nhw yn hytrach nag arnyn nhw, a bydd ymrwymo partïon eraill yn helpu i wneud yn siŵr bod y gwaith hwn yn barhaol ac yn cael ei ymwreiddio yn y gymuned.’

Y Twmps
Un o sgil-effeithiau annisgwyl y prosiect yw cydweithrediad rhwng y cymunedau ar ben uchaf a phen isaf Barrack Hill (neu’r ‘Twmps’ fel y caiff ei alw’n garedig gan drigolion sydd wedi bod yma’n hirach – gair sy’n deillio’n uniongyrchol o’r Gymraeg sy’n golygu’n gyffredinol man â llethr gyda llawer o lystyfiant).

Cafodd y casgliadau eu trefnu gan y trigolion eu hunain, gyda’r un olaf yn gydweithrediad rhwng y cymunedau ar ben uchaf ac isaf Barrack Hill.

Mae Arthur yn byw mewn tŷ 97 mlwydd oed yn Allt-yr-yn, ar ben uchaf Barrack Hill yn edrych i lawr ar safle’r prosiect.

‘Mae fy nheulu i wedi byw yma am 30 mlynedd, a phrin ydyn ni wedi bod ar gyfyl yr ardal hon o’r blaen,’ meddai Arthur. ‘D’oedd hi ddim yn teimlo’n ddiogel yno a bydden ni dim ond yn cadw at gyrion yr ardal gan ei bod mor serth ac wedi tyfu’n wyllt.’

Ond oherwydd ei bod wedi’i gadael i dyfu’n wyllt, mae natur wedi cael llonydd i ffynnu. Diolch i’r gwaith sydd wedi’i wneud ar glirio’r sbwriel, mae Arthur, ynghyd ag aelodau eraill o gymuned Allt-yr-yn, wedi bod yn cynnal arolwg o fywyd gwyllt yr ardal.

‘R’yn ni’n credu ein bod wedi nodi hyd at 500 o wahanol rywogaethau o blanhigion, trychfilod, mamaliaid ac adar yn yr ardal hyd yma yn wyth mis cyntaf yr arolwg...gan gynnwys rhai trychfilod a phlanhigion prin.’

Yn ystod sesiwn casglu sbwriel gymunedol Lucy, gwelwyd unrhyw rwystrau rhwng aelodau o’r gwahanol gymunedau yn diflannu – gyda disgwyliad ar bawb i laesu eu dwylo a gweithio gyda’i gilydd. Nid oedd ganddyn nhw’r amser i ystyried y ffaith na fydden nhw fel arfer yn cael y cyfle i ryngweithio â’i gilydd.

‘Mae Lucy wedi dwyn ynghyd grwpiau na fyddai wedi gweithio gyda’i gilydd fel arall – gwnaeth hi hyd yn oed perswadio rhai pobl ifanc o’r ystad i ddod a chymryd rhan yn y broses glirio,’ ychwanegodd Arthur.

‘Roedd hi’n braf gallu rhannu ein gwybodaeth am natur yr ardal hefyd – bydden ni’n siarad am iyrchod neu wenyn prin yr ardal ac roedd pawb i weld yn llawn diddordeb.’

Mae’r Grŵp Adfer Twmp newydd sydd wedi’i sefydlu wrth ei fodd i fod yn gweithio mewn partneriaeth â Lucy a Chyngor Dinas Casnewydd i helpu i wella bioamrywiaeth yn y safle diddorol hwn.

Ardal Natur Barrack Hill

Ardal natur Barrack Hill

Ardal natur Barrack Hill

Beth nesaf?
Mae gweledigaeth hirdymor ar gyfer yr ardal yn cael ei llunio ar hyn o bryd, a bydd unrhyw fesurau yn y dyfodol i adfer a gwella’r cynefin yn cael eu cymryd yn sensitif, gan sicrhau bod yr ecoleg gyfredol yn cael ei gwarchod.

‘Pe bai ni’n cael cyllid flwyddyn nesaf, rwy’n credu mai ein blaenoriaethau fyddai rheoli rhywogaethau goresgynnol a gwneud dôl o’r ardal llawn rhedyn ar y rhiw,’ meddai Lucy.

‘Bydden ni hefyd yn gweithio ar gynllunio llwybr rhwng y ddwy gymuned drwy’r man gwyrdd – mae’n swnio’n hurt, ond mae angen llwybr go iawn arnyn nhw i gysylltu’r ddwy!’

‘Mae’n wahanol y tro hwn – oes, mae mwy o gyllid, ond mae hefyd mwy o bobl fel Lucy sy’n barod i gadw mewn cysylltiad a gwrando arnom ni,’ medd Julia’n olaf. ‘Ry’n ni’n teimlo ein bod yn cael ein clywed.’

I gael gwybod sut gallwch chi ddechrau prosiect adfer natur yn eich cymuned, cysylltwch â’ch LNP: biodiversitywales.org.uk/Lleol-i-chi

2024 LNP Cymruwebsite by WiSS