English

Ailwylltio’r hen Gwrs Golff ym Mhorthceri

LNP Bro Morgannwg

Amrywia’r dirwedd ym Mharc Gwledig Porthceri o glogwyni serth i dir amaeth eang. Mae’n cynnwys ystod o ecosystemau dynamig, rhai wedi’u gadael yn wyllt a nifer wedi’u rheoli mewn modd sensitif gan y Gwasanaeth Ceidwaid. Bu hefyd yn gartref i gwrs golf 12-twll a gafodd ei gau ym mis Ebrill 2019 o ganlyniad i lifogydd parhaus a chostau cynnal a chadw cynyddol a olygai nad oedd y cyhoedd yn gwneud defnydd ohono. Gadawodd hyn 3.5 Hectar o laswelltir amwynder yr oedd modd ei ailwylltio.

Gweithio fel tîm

Gyda chyllid a chefnogaeth gan LNP Bro Morgannwg, yn ogystal â Chyngor Bro Morgannwg, Sefydliad Waterloo, Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru, Grant y Landfill Trust, Innovate Trust, Grŵp Bywyd Gwyllt Porthceri, grwpiau cadwraeth a gwirfoddolwyr, roedd modd dechrau ar y gwaith!

Gadawyd i’r hen gwrs golff dyfu’n naturiol am y misoedd cyntaf er mwyn gweld pa blanhigion fyddai’n ymddangos yno’n naturiol, canfod llinellau llif ar gyfer mynediad y cyhoedd, adnabod ardaloedd oedd yn dal dŵr ac ymgynghori gyda mudiadau cymunedol ac eraill. Yn dilyn hynny, aethpwyd ati i gyflawni mesurau lliniaru llifogydd, megis lledaenu’r nant a glanhau a lledaenu ffosydd, a chafodd mwy o byllau eu creu er budd amffibiaid, ymlusgiaid, mamaliaid, adar ac infertebratau. Yna, crëwyd coridorau bywyd gwyllt er mwyn cysylltu’r pyllau, ardaloedd blodau gwyllt a choetiroedd. Yn olaf, er mwyn galluogi gwerthfawrogiad o’r ardal wedi’i hailwylltio drwy’r flwyddyn, gosodwyd llwybrau wedi’u creu o blastig wedi’i ailgylchu.

Cymru gyfoethog o ran ei natur

“Mae ailwylltio yn rhoi inni’r gobaith o blaned fyw gyfoethocach a fydd unwaith eto’n llenwi ein bywydau â rhyfeddod a chyfaredd.”

- George Monbiot, awdur ac ymgyrchydd

Mae’r prosiect hwn wedi darparu platfform gwych er mwyn dysgu pobl ynglŷn â byd natur a’i fuddion. Mae ardaloedd addysg a dysgu wedi’u sefydlu a phaneli wedi’u gosod er mwyn addysgu am bwysigrwydd cynefinoedd dolydd a phyllau. Yn ogystal, mae ardaloedd wedi’u neilltuo er mwyn treialu gwahanol ddulliau o gynyddu’r nifer o flodau gwyllt.

Bu’r prosiect yn ddibynnol ar bartneriaethau gyda grwpiau cymunedol o’r tu allan, ysgolion a gwirfoddolwyr o’r ardal gyfagos, ac felly mae’n enghraifft wych o’r cydweithio y gall Prosiect LNP ei gynnig.

Mae’r gwaith wedi cyfoethogi cydnerthedd ecosystemau’r safle heddiw, ac felly, gobeithio, am genedlaethau i ddod, fel dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, Aelod o’r Cabinet dros Adfywio a Chynllunio, “Mae ailgyflwyno rhywogaeth i ardal lle’r oedden nhw’n doreithiog ar un adeg yn ffordd wych o amddiffyn bioamrywiaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Bydd y cynlluniau i ailwylltio’r ardal hon o’r parc yn ychwanegu at brofiad yr ymwelydd a byddwn yn helpu’r nifer o grwpiau o ysgolion sy’n ymweld â’r parc i ddysgu ynglŷn â phwysigrwydd bioamrywiaeth a rheoli tir mewn modd sensitif.”

Gwirfoddolwyr yn helpu i blannu gwlypdiroedd

Llun o gwrs golff – Gwanwyn/Haf 2020

Llwybrau bordiau plastig newydd wedi’u hailgylchu sy’n darparu mynediad drwy’r ardal sydd wedi’i ddad-ddofi

Gwirfoddolwyr Innovation Trust

Gwirfoddolwr yn monitro gweision y neidr a mursennod

Golygfa o’r awyr o byllau a phyllau bas newydd

2024 LNP Cymruwebsite by WiSS